Cysylltu

efo Ni

Ysgol Betws GG

Betws Gwerfil Goch

Corwen

LL21 9PY

01490 460315

betws.gg@denbighshire.gov.uk

@Ysgolbetwsgg

Ysgol Betws GG © 2026 Website designed and maintained by H G Web Designs

Croeso i wefan

Ysgol Betws GG

Dewch i Ysgol Betws Gwerful Goch! Mae'n bleser gennym gyflwyno gwefan Ysgol Betws Gwerful Goch er mwyn rhannu gwybodaeth am ein hysgol. Mae croeso mawr i chi gysylltu hefo ni yn yr ysgol er mwyn trefnu i ymweld â'r ysgol, neu i gael rhagor o wybodaeth. Mae awyrgylch hapus, gofalgar yn yr ysgol, ble mae pawb yn cael ei barchu, eu gwerthfawrogi, ac yn cael cyfle i ynnu mewn awyrgylch cartrefol, sy'n sbarduno diddordeb y plant mewn dysgu. Ein diben yma yn Ysgol Betws Gwerful Goch yw meithrin unigolion cyflawn a dinasyddion hyderus, sy'n barchus o'i gilydd a'r byd o'u cwmpas. Ein dymuniad yw i greu taith addysgol sydd yn llawn cyfleoedd cyfoethog sy'n addas ar gyfer pob dysgwr, ble bynnag eu man cychwyn. Bydd eu taith trwy'r ysgol yn gyfle iddynt gasglu llu o atgofion a phrofiadau gwerthfawr i'w cadw a'u trysori am oes. Rydym yn annog chwilfrydedd, meithrin cymelliant a pharatoi ein plant i fod yn oedolion cyflawn y dyfodol. Ysgol wledig, gymunedol, naturiol Gymraeg ydi Ysgol Betws Gwerful Goch . Rydym yn odus o fod mewn ardal sydd yn llawn hanes ac rydym yn dathlu hynny ymhob rhan o'n gwaith. Mae rhoi lle blaenllaw i'r Iaith Gymraeg, ein diwylliant a'n hanes ni fel gwlad yn hanfodol ac wedi'i gwreiddio'n ddwfn ym mywyd pob dydd yr ysgol. Yma fe weithiwn fel teulu i feithrin unigolion sydd yn ymfalchio yn eu llwyddiannau, a llwyddiannau ein cymuned.
Ysgol Betws Gwerful Goch

@Ysgolbetwsgg

Cysylltu

efo Ni

Ysgol Betws GG

Betws Gwerfil Goch

Corwen

LL21 9PY

01490 460315

betws.gg@denbighshire.gov.uk

@Ysgolbetwsgg

Ysgol Betws GG © 2025

Website designed and maintained by H G Web Designs

Croeso i wefan

Ysgol Betws GG

Dewch i Ysgol Betws Gwerful Goch! Mae'n bleser gennym gyflwyno gwefan Ysgol Betws Gwerful Goch er mwyn rhannu gwybodaeth am ein hysgol. Mae croeso mawr i chi gysylltu hefo ni yn yr ysgol er mwyn trefnu i ymweld â'r ysgol, neu i gael rhagor o wybodaeth. Mae awyrgylch hapus, gofalgar yn yr ysgol, ble mae pawb yn cael ei barchu, eu gwerthfawrogi, ac yn cael cyfle i ynnu mewn awyrgylch cartrefol, sy'n sbarduno diddordeb y plant mewn dysgu. Ein diben yma yn Ysgol Betws Gwerful Goch yw meithrin unigolion cyflawn a dinasyddion hyderus, sy'n barchus o'i gilydd a'r byd o'u cwmpas. Ein dymuniad yw i greu taith addysgol sydd yn llawn cyfleoedd cyfoethog sy'n addas ar gyfer pob dysgwr, ble bynnag eu man cychwyn. Bydd eu taith trwy'r ysgol yn gyfle iddynt gasglu llu o atgofion a phrofiadau gwerthfawr i'w cadw a'u trysori am oes. Rydym yn annog chwilfrydedd, meithrin cymelliant a pharatoi ein plant i fod yn oedolion cyflawn y dyfodol. Ysgol wledig, gymunedol, naturiol Gymraeg ydi Ysgol Betws Gwerful Goch . Rydym yn odus o fod mewn ardal sydd yn llawn hanes ac rydym yn dathlu hynny ymhob rhan o'n gwaith. Mae rhoi lle blaenllaw i'r Iaith Gymraeg, ein diwylliant a'n hanes ni fel gwlad yn hanfodol ac wedi'i gwreiddio'n ddwfn ym mywyd pob dydd yr ysgol. Yma fe weithiwn fel teulu i feithrin unigolion sydd yn ymfalchio yn eu llwyddiannau, a llwyddiannau ein cymuned. Yn gywir Mrs Catrin Phillips

@Ysgolbetwsgg