Cysylltu
efo Ni
Ysgol Bro Elwern
Gwyddelwern
Corwen
LL21 9DF
Croeso i wefan
Ysgol Bro
Elwern
Mae'n bleser gennym gyflwyno gwefan
Ysgol Bro Elwern, er mwyn rhannu
gwybodaeth am ein hysgol hefo chi. Mae
croeso mawr i chi gysylltu hefo ni er mwyn
trefnu i ymweld â'r ysgol, neu i gael rhagor
o wybodaeth.
Mae awyrgylch hapus, gofalgar yn yr ysgol,
ble mae pawb yn cael ei barchu, eu
gwerthfawrogi, ac yn cael cyfle i ffynnu
mewn awyrgylch cartrefol, sy'n sbarduno
diddordeb y plant mewn dysgu.
Ein diben yma yn Ysgol Bro Elwern yw
meithrin unigolion cyflawn a dinasyddion
hyderus, sy'n barchus o'i gilydd a'r byd o'u
cwmpas. Ein dymuniad yw i greu taith
addysgol sydd yn llawn cyfleoedd
cyfoethog sy'n addas ar gyfer pob dysgwr.
Bydd taith ein dysgwyr trwy'r ysgol yn
gyfle iddynt gasglu llu o atgofion a
phrofiadau gwerthfawr i'w cadw a'u
trysori am oes. Rydym yn annog
chwilfrydedd, meithrin cymelliant a
pharatoi ein plant i fod yn oedolion cyflawn
y dyfodol.
Ysgol wledig, gymunedol, naturiol
Gymraeg ydi Ysgol Bro Elwern. Rydym yn
ffodus o fod mewn ardal sydd yn llawn
hanes, ac rydym yn dathlu hynny ymhob
rhan o'n gwaith. Mae rhoi lle blaenllaw i'r
iaith gymraeg, ein diwylliant a'n hanes ni
fel gwlad yn hanfodo,l ac wedi'i wreiddio'n
ddwfn ym mywyd pob dydd yr ysgol. Yma
fe weithiwn fel teulu i feithrin unigolion
sydd yn ymfalchio yn eu llwyddiannau, a
llwyddiannau ein cymuned.
Yn gywir
Mrs Catrin Phillips
Cysylltu
efo Ni
Ysgol Bro Elwern
Gwyddelwern
Corwen
LL21 9DF
@BroElwern